Chwilio

 
 

Croeso i'r Archifdy


Sylwch y bydd yr Archifdy AR GAU bore Ddydd Mawrth yr 16eg o Ebrill. Byddwn ni ar agor o 2 pm ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Archifdy Ceredigion yw'r archifdy ar gyfer y sir a elwid gynt yn Sir Aberteifi neu (yn Saesneg) Cardiganshire. Rydym yn rhan o Gyngor Sir Ceredigion.

Rydym yn casglu ac yn cadw dogfennau am hanes Sir Aberteifi ac yn trefnu eu bod ar gael ar gyfer gwaith ymchwil.

Mae croeso i bawb ddod i'r Archifdy i wneud gwaith ymchwil - i hanes lleol a theuluol, i brosiectau ysgol, i hen gofnodion cerbydau, ac i nifer fawr o bynciau eraill. Rydyn ni yma ar gyfer ymchwil personol, prosiectau ysgol, gwaith gradd prifysgol, ymchwil academaidd, ac ymchwil er dibenion busnes

Gall Staff yr Archifdy awgrymu trywydd addas i'ch gwaith ymchwil, a rhoi arweiniad i chi ynghylch sut i ddefnyddio'r dogfennau.

Hen Stafell Ymchwil

Gwybodaeth bellach


Y Casgliadau: Beth yn union sydd yn yr Archifau?
Cysylltwch â ni: Anfonwch e-bost atom
gyda'ch ymholiad, neu ffoniwch, neu gallwch hyd yn oed ysgrifennu lythyr go iawn atom.
Ymweld: Sut i ddod o hyd i ni, oriau agor, cyfleusterau, ac ati.
Ein gwasanaethau: Copio, ymchwil, ac ati.
Sut i ddod o hyd i ni ar-lein: Ein gwefannau allannol gan gynnwys rhwydweithio cymdeithasol..



Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu