Chwilio

 
 

Y Casgliadau



Mae Archifdy Ceredigion yn cynnwys casgliadau o gofnodion swyddogol, cyhoeddus a phreifat, ac mae'n bosibl i'r cyhoedd edrych ar y rhan fwyaf ohonynt. Gallwch chwilio'r catalogau (neu'r atodlenni) ar-lein: defnyddiwch y dewisiadau chwilio uchod a'r rhestr ar yr ochr chwith i'r dudalen hon.

Mynediad i gofnodion cyhoeddus: Sylwch fod mynediad i’r rhan fwyaf o gofnodion cyhoeddus yn bosibl ar ôl 20 mlynedd, yn amodol ar ddarpariaethau’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR): Efallai na fydd rhai gofnodion ar gael oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth sensitif am unigolion sy'n dal yn fyw.

Ein defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg wrth gatalogio
Os yw’r rhan fwyaf o ddogfennau’r casgliad yn y Saesneg, defnyddir yr iaith honno i’w ddisgrifio. Os yw’r rhan fwyaf o ddogfennau’r casgliad yn y Gymraeg, fe’i catalogir yn yr iaith honno. Os hoffech gymorth i ddehongli cofnod catalog yn y naill iaith neu’r llall, mae croeso ichi gysylltu â ni yn ddi-oed.

Y prif gasgliadau yw:

Cofnodion Llywodraeth Leol

Cyngor Sir Aberteifi
Cofnodion, gohebiaeth, cofnodion ariannol, cofnodion adrannol (Penseiri, Addysg, Iechyd Cyhoeddus, Priffyrdd, Llyfrgelloedd, Cynllunio, Ysgrifenyddion, Lles, Pwysau a Mesurau ac eraill), cofnodion trwyddedu cerbydau modur a chofnodion eraill 1889 - 1974.

Cyngor Sir Dyfed
Cofnodion 1974-1996 a chofnodion eraill.

Cyngor Sir Ceredigion
Cofnodion ac agendâu 1996-y presennol, a chofnodion eraill

Byrddau y Gwarcheidwaid
Cofnodion Undebau Deddf y Tlodion yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan a Thregaron ac awdurdodau olynol, gan gynnwys llyfrau cofnodion, llyfrau llythyrau, cofnodion ariannol, rhestrau cymorth, cofrestri admisiynau, cofnodion brechu 1837 -1930. Sylwer y gall fod cyfyngu ar rai o'r dogfennau hyn dan Ddeddf Gwarchod Data 1998.

Cofnodion Ysgolion
Llyfrau lòg, cofrestri admisiynau, cofnodion byrddau yr ysgolion, cofnodion y cyngor sir, a chofnodion eraill c. 1870-y presennol. Sylwer y gall fod cyfyngu ar rai o'r dogfennau hyn dan Ddeddf Gwarchod Data 1998.

Cofrestri Etholiadol
Ar gyfer Sir Aberteifi hyd at 1974, yna ar gyfer rhan ogleddol Dyfed ac, er 1996, ar gyfer sir newydd Ceredigion. Mae yna rai enghreifftiau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yna 1945 - y presennol.

Cynghorau Dosbarth
Cofnodion y cynghorau dosbarth dinesig a gwledig gynt, a Chyngor Dosbarth Ceredigion, gan gynnwys llyfrau cofnodion, gohebiaeth, llyfrau trethi a phrisiant, a chofnodion eraill, gan gynnwys rhai yn ymwneud â mudo plant adeg y rhyfel.

Cofnodion Bwrdeistrefol
Cofnodion o gynghorau Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

Cynghorau Plwyf a Chynghorau Cymuned Cofnodion nifer o gynghorau plwyf o 1894 - y presennol.


Cofnodion Cyhoeddus

Mae'r Archifdy yn fan adneuo cydnabyddedig ar gyfer cofnodion cyhoeddus gan gynnwys:

Cofnodion Ysbytai
Yn cynnwys: cofnodion Ysbyty Aberystwyth ac Ysbyty Gyffredinol Aberteifi (Fferyllfa Aberystwyth gynt) 1821 - 1948; cofnodion Awdurdod Iechyd Canolbarth Cymru, Pwyllgor Rheoli'r Ysbytai 1948 - 1974; cofnodion y Pwyllgor Meddygol Lleol 1949 - 1974; a Phwyllgor Yswiriant Sir Aberteifi 1913 - 1948.

Y Llysoedd Chwarter
Mae ychydig gofnodion wedi goroesi o Lysoedd Chwarter Sir Aberteifi. Mae'r casgliad yn cynnwys yn bennaf y Llyfrau Gorchmynion 1739 - 1971.

Y Sesiwn Fach
Cofnodion, cofrestri, y 19eg a'r 20fed ganrif.

Cofnodion Llongau
Cofnodion llongau ym mhorthladd Aberystwyth 1824 - 1884, a chofrestri trafodion masnachol, 1855 - 1925, yn gysylltiedig â llongau a gofrestrwyd cyn 1855; cofrestr llongau pysgota, 1869 - 1902; rhai llyfrau lòg a chytundebau criwiau'n gysylltiedig â llongau o Sir Aberteifi; un gofrestr o drafodion masnachol ar gyfer porthladd Aberteifi.

Mapiau Morwrol y Bwrdd Masnach
Mapiau o newidiadau ac ychwanegiadau i diroedd y Goron ar flaenau traethau (gan gynnwys porthladdoedd, glanfeydd ac ati) c. 1860 - 1970au.

Rhestrau Prisiant
Lluniwyd o dan Ddeddf (1909 - 1910) Gyllid 1910, gan Gyllid y Wlad (y 'Llyfrau Domesday' fel y'u gelwir). DS. Mae'r mapiau sy'n cyd-fynd â'r prisiannau hyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Cyfrifon Elusennau
O amryw elusennau yn y sir 1901 - 1953.

Ffurflenni Cyfrifiad
Dychweliadau'r Cyfrifiad yn Sir Aberteifi ym 1841, 1851, 1861, 1871, 1881, 1891 (ar ficroffilm), 1901 (ar ficroffilm a fiche). Mae'r rhain yn rhoi manylion am bob cartref yn y sir: enw, oed, gwaith a man geni pob un o'r preswylwyr. Maent yn ffynhonnell werthfawr iawn ar gyfer haneswyr lleol ac i'r sawl sy'n olrhain achau eu teuluoedd. Mae rhai o ffurflenni'r cyfrifiad wedi cael eu hadysgrifio er mwyn gwneud gwaith ymchwil yn haws.


Bedyddiadau, Priodasau a Chladdedigaethau

Cofnodion yr Eglwys Anglicanaidd a'r Eglwys yng Nghymru
Mae'r rhan fwyaf o gofrestri bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau plwyfi Sir Aberteifi ar gael yn yr Archifdy ar ficroffilm. Y gadwrfa ar gyfer cofnodion y plwyfi yn esgobaeth Tyddewi (sy'n cynnwys ardal Sir Aberteifi) yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle mae'r cofnodion ar gael yn yr un modd ar ffilm.Yn ogystal, mae'r archifdy'n dal adysgrifau a mynegeion priodasau (cyn 1813 a 1813 - 1837) ar gyfer y sir, mynegeion claddedigaethau'r Eglwys Anglicanaidd 1813 - 1865 a rhai mynegeion ac adysgrifau eraill sy'n berthnasol i eglwysi unigol. Gweler hefyd y Mynegeion i Arysgrifau Coffa, isod.

Cofnodion Anghydffurfiol
Mae'r archifdy'n dal copïau microffilm o gofrestri bedyddiadau cynnar (cyn 1837) a rhai cofnodion eraill, gan gynnwys cofrestri bedyddiadau a phriodasau, adroddiadau blynyddol, cyfrifon, ac ati, sy'n gysylltiedig â chapeli yn y sir. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda, i weld a ydym yn dal y cofnodion sydd arnoch eu hangen - mae llawer yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu mewn mannau eraill.

Mynegeion i Arysgrifau Coffa
Mae mynegeion i holl eglwysi, capeli, cofebau rhyfel, ac ati, tua hanner y plwyfi yn Sir Aberteifi. Cafodd y mynegeion hyn eu paratoi gan arbenigwyr ar gyfer Cymdeithas Hanes Teuluol Sir Aberteifi sy'n cynnal llyfrgell o gyhoeddiadau defnyddiol yn y swyddfa hon.


Casgliadau Preifat ar Adnau

Cofnodion amrywiol a adneuwyd gan unigolion, cymdeithasau, busnesau a chwmnïau cyfreithiol ac ati. Gall y rhain gynnwys gweithredoedd teitl, deunyddiau printiedig, ffotograffau, cardiau post, dyddiaduron, mapiau, gohebiaeth, ac ati.

Gellir edrych hefyd ar bapurau newydd lleol. Y Cardigan and Tivyside Advertiser (1866 - y presennol) ac amryw rifynnau o'r Cambrian News ( o 1871 - y presennol, gyda rhai bylchau!) a'r Cardigan Bay Visitor (1890, 1905 - 1907).


Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu