Estynnir croeso cynnes i bawb sy'n ymweld ag Archifdy Ceredigion. Beth bynnag yw eich diddordebau a'ch meysydd astudio - boed hynny'n hanes teuluol, hanes lleol, prosiectau addysgol, hen rifau cofrestru ceir a llawer o bynciau eraill - dewch i weld sut y gallwn ni eich helpu.
Gall staff yr Archifdy gynnig trywydd ymchwil priodol i chi, a'ch cynghori sut i ddefnyddio'r dogfennau.
Dyma ein horiau agor:
Dydd Llun - Dydd Mercher: 10yb-1yh a 2yh-5yh
Dydd Iau: AR GAU trwy'r dydd
Dydd Gwener: 10yb-1yh a 2yh-4.30yh
(Ar gau ar Wyliau Banc a Gwyliau'r Cyngor. Os ydych yn teithio o bell,
cysylltwch â ni cyn cychwyn i wneud yn siwr ein bod ar agor.)
Nid oes angen apwyntiad i ymweld ag Archifdy Ceredigion ond gellir archebu deunydd drwy
bori drwy'r catalog ar-lein ac yna [link:contact:cysylltu a'r Archifdy] gyda eich dewis o ddogfennau. Neu os nad ydych yn sicr pa ddogfennau yr ydych eu hangen mae croeso i chwi gysylltu fel eich bod yn gallu cael cymorth gan aelod o staff, neu holwch wrth gyrraedd.
DS. PEIDIWCH Â DOD I'R ARCHIFDY OS NAD YDYCH YN TEIMLO'N DDA NEU OS BYDD SYMPTOMAU TEBYG I RAI COVID-19 ARNOCH, OS GWELWCH YN DDA
Yn yr Ystafell Ymchwil
• Ni chaniateir bwyd na diod (yn cynnwys melysion/fferins) yn yr Ystafell Ymchwil
• Dylech ddiffodd tôn-ganu eich ffôn symudol pan fyddwch yn defnyddio'r Archifdy
• Ni ddylid gosod bagiau ar y byrddau yn yr Ystafell Ymchwil
• Dim ond gyda chaniatâd yr Archifydd y gellir llungopio neu sganio
• Dim ond gyda chaniatâd yr Archifydd y gellir tynnu ffotograffau
• Dylai plant a'u rhieni barchu'r awyrgylch tawel yn yr Ystafell Ymchwil
• Gofynnir i chwi barchu gofod personol defnyddwyr eraill a staff y Gwasanaeth
Mae'r rhan fwyaf o'r dogfennau'n unigryw, ac mae rhai ohonynt yn fregus. Rhaid eu trafod â gofal mawr
• Gwnewch yn siwr bod
eich dwylo'n lân
• Trowch y tudalennau'n ofalus (a
pheidiwch byth â llyfu'ch bysedd i helpu'r broses, os gwelwch yn dda!)
• Ni ddylid pwyso ar ddogfennau, na'u cyffwrdd yn ddiangen
• Peidiwch â gorffwys eich pad ysgrifennu eich hun ar y ddogfen
•
Defnyddiwch bensil bob amser, nid pen ysgrifennu
• Defnyddiwch astell lyfrau ar gyfer cyfrolau wedi'u rhwymo
• Ni chaniateir i unrhyw un gael mynediad at fwy na phedair dogfen ar y tro
Nid oes angen archebu dogfennau ymlaen llaw ond bydd yn cyflymu pethau os gwnewch hynny.
Os ydych yn cael trafferth gydag unrhyw agwedd o’r deunydd yr ydych wedi ei archebu, e.e. darllen gair, gofynnwch i aelod o staff am gymorth.
Mae croeso i chwi ddod â'ch gliniadur, camera, neu ddyfeisiau eraill.
Bydd y llyfrau cyfeiriol ar gael yn ystod eich ymweliad.
Bydd peiriannau ffilm a fiche ar gael. Gellwch ofyn am fenig tafladwy os dymunwch.
Mae'r cyfrifiaduron cyhoeddus ar gael.
DS. Rydym ni'n symud i gynllun cofrestru darllenwyr newydd, sef y
Cerdyn Archifau. Tocyn darllenydd archifau unigol yw'r Cerdyn Archifau ac mae'n rhoi mynediad ichi i doreth o ddeunyddiau archif gwreiddiol mewn archifdai ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r Cerdyn Archifau ar gael yn rhad ac am ddim ac yn ddilys am bum mlynedd. Gellwch ddechrau'r broses gofrestru gartref;
cliciwch yma i ddarganfod mwy.
Lleolir yr Archifdy yn hen Neuadd y Dref Aberystwyth, tua deng munud o orsafoedd y trenau a'r bysiau. Gallwch barcio am ddim ar strydoedd y dref ac ar lan y môr, ond cofiwch fod Aberystwyth yn lle prysur iawn yn nhymor y gwyliau. Hefyd, mae yna sawl maes parcio talu-ac-arddangos yn y dref.
(Map Arolwg Ordnans o 1905 yw'r un uchod; mae hwn yn rhoi
gwybodaeth fwy diweddar)
Cadeiriau olwyn
Mae modd i bobl mewn cadeiriau olwyn gael mynediad i'r Archifdy.
Bwyd a Diod
Ni chaniateir bwyta ac yfed yn yr Ystafell Ymchwil. Pan ddaw amser cinio (neu pan fyddwch yn ysu am baned o goffi), ewch am dro byr i ganol y dref. Mae Aberystwyth yn llawn o gaffis a bwytai. Rydych yn siwr o ddod ar draws rhywle sy'n plesio!
Os oes angen i chi aros dros nos, gall y
Swyddfa Dwristiaeth yn Aberystwyth roi manylion am westai lleol i chi.