Chwilio

 
 

POLISI DATBLYGU CASGLIADAU ARCHIFDY CEREDIGION



1. Cyflwyniad

1.1 Mae Diffiniad a Rôl Archifau wedi’u nodi fel hyn yn Archives for the 21st Century (yr Archifau Gwladol, 2009): 'Archives are the record of the everyday activities of governments, organisations, businesses and individuals. They are central to the record of our national and local stories and are vital in creating cultural heritage and supporting public policy objectives. Their preservation ensures that future generations will be able to learn from the experiences of the past to make decisions about the present and future'.

1.2 Mae archifau yn darparu ffynonellau tystiolaeth hanfodol a gwerthfawr yn ymwneud â bywyd ddoe a heddiw. Mae tystiolaeth o’r fath yn unigryw oherwydd ei gallu i feithrin ac ysbrydoli ymdeimlad o le, amser a pherthyn. Mae archifau yn helpu i ddod â’r gorffennol yn fyw, yn ein helpu i ddeall sefyllfa’r byd heddiw ac yn cynorthwyo rôl dinasyddion heddiw. Maent yn darparu tystiolaeth awdurdodol o ddigwyddiadau’r gorffennol at ddibenion addysgol, academaidd, cymdeithasol, cyfreithiol, busnes, meddygol a dibenion eraill. Mae modd defnyddio archifau i ddatrys problemau ac amddiffyn hawliau, a meithrin balchder mewn hunaniaethau unigol a chymunedol.

1.3 Mae archifau yn cael eu creu fel dogfennaeth i ategu prosesau dynol o bob math. Gyda threigl amser, y cofnodion hyn yw’r unig beth sy’n goroesi sefydliadau ac unigolion yn aml, ac maent yn darparu tystiolaeth unigryw, waeth pa mor ddiffygiol, o ddigwyddiadau’r gorffennol a chenedlaethau blaenorol. Mae archifau a dogfennau ym mhob cyfrwng (gan gynnwys papur, memrwn, mapiau, cynlluniau, ffotograffau, ffilmiau ac electronig) yn darparu tystiolaeth unigryw o ddatblygiad hanesyddol lleoedd a bywydau bob dydd pobl.

1.4 Mae Archifdy Ceredigion (a’r corff blaenorol - Archifdy Dyfed, Swyddfa Gofnodion Ardal Sir Aberteifi) wedi gwarchod y cofnod archifol ers ei sefydlu ym 1974, gan ddiogelu asedau gwybodaeth hanfodol at ddefnydd heddiw ac yfory trwy reoli’r archifau yn unol â safonau proffesiynol. Rydym yn casglu, yn diogelu, yn cadw, yn rheoli, yn rhannu ac yn hyrwyddo etifeddiaeth archifol Ceredigion a Sir Aberteifi ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory. Hefyd, rydym yn helpu i sicrhau bod sir fodern Ceredigion yn cyflawni ei blaenoriaethau, yn enwedig ym meysydd datblygu cynaliadwy, economi gref, gwella addysg a sgiliau a hyrwyddo byw’n iach ac yn annibynnol. Rydym yn gweithredu, trwy gyfrwng ein Gwasanaeth Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion, fel cof corfforaethol yr awdurdod a’r cyrff a’i rhagflaenodd.

1.5 Mae’r fframwaith statudol ar gyfer gwasanaeth yr archifau yn seiliedig ar y canlynol:

• Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Deddf Llywodraeth Leol (Cofnodion) 1962
• Adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994
• Mesur Cofrestri a Chofnodion Plwyfol 1978
• Deddfau Cofnodion Cyhoeddus 1958 a 1967

1.6 Mae mynediad i gasgliadau yn cydymffurfio â’r canlynol:

• Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
• Deddf Diogelu Data 1998
• Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2005

2. Datganiad Cenhadaeth

Drwy ein Gwasanaeth Archifau, diogelu deunydd tystiolaethol (boed yn hanesyddol neu’n gyfoes) sydd a wnelo â sir Ceredigion, ei reoli a’i wneud ar gael i bobl a chynorthwyo’r awdurdod lleol drwy ein Gwasanaeth Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion. Gwneud y wybodaeth sydd yn ein gofal ar gael i bawb sydd ei angen, yn unol â fframwaith cydymffurfiaeth cyfreithiol ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth dda o anghenion ein defnyddwyr. Darparu hyfforddiant ar Ddiogelwch Gwybodaeth a Diogelu Data i’r awdurdod a meddu ar gyfrifoldebau swyddogaeth gynghori o ran ymatebion yr awdurdod i bob Cais Gwrthrych am Wybodaeth.

3. Diben y Polisi hwn

3.1 Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno Polisi Datblygu Casgliadau Archifdy Ceredigion ('AC') ac yn egluro sut rydym yn ceisio sicrhau sylw cynhwysol i holl agweddau ar hanes y sir.Mae’n ategu ein Datganiad Cenhadaeth uchod ac mae angen ei ystyried ar y cyd â Blaengynllun AC, y Polisi Gwybodaeth am Gasgliadau, Cytundebau Adneuwyr a dogfennau polisi perthnasol eraill.

4. Y Sefyllfa Statudol

4.1 Mae Cyngor Sir Ceredigionyn awdurdod llywodraeth leol sy’n gweinyddu ardal sy’n cyfateb i raddau helaeth iawn â hen sir Aberteifi (a’r ardal yn hen sir Dyfed y cyfeiriwyd ati fel ‘Rhanbarth Ceredigion’) ac a sefydlwyd ar 1 Ebrill 1996.Hwn yw’r unig awdurdod llywodraeth leol yn sir bresennol Ceredigionsydd â phwerau yn ymwneud ag archifau.

4.2 Yn ôl y cynllun ar gyfer darpariaeth AC o dan ofynion Adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, mae Cyngor Sir Ceredigionyn cytuno i weinyddu AC a bod yn gyfrifol am warchod ei chasgliadau presennol.

4.3 Mae adran 224 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn nodi bod gan Gyngor Sir Ceredigion rwymedigaethau statudol i 'make proper arrangements with respect to any documents that belong to or are in the custody of the council or any of its officers'. Mae hyn yn cynnwys:

• Cofnodion a gafodd eu creu gan y Cyngor Sir a’i ragflaenwyr wrth gyflawni ei waith – cyfredol a lled gyfredol.

• Cofnodion sy’n cael eu cadw ar ran y llywodraeth ganolog ac y mae Deddf Cofnodion Cyhoeddus 1958 yn berthnasol iddynt.

• Cofnodion a roddwyd i’r awdurdod neu a brynwyd ganddo, neu gofnodion sydd wedi’u hadneuo i’r awdurdod lleol ar sail benthyciad hirdymor o dan awdurdod Deddf Llywodraeth Leol (Cofnodion) 1962.

4.4 O dan Ddeddfau Llywodraeth Leol 1962 a 1972, y Cyngor Sir, trwy ei wasanaeth archifau, yw’r awdurdod archifau penodedig ar gyfer holl ranbarthau llywodraeth leol yng Ngheredigion, ac mae’n gyfrifol am ofalu’n briodol am gofnodion pob cyngor plwyf (a’r cynghorau cymuned a’u dilynodd) ac eithrio mewn achosion lle mae cofnodion o’r math wedi’u rhoi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru cyn creu AC.

4.5 Penodir AC fel ystorfa ar gyfer cofnodion cyhoeddus sydd wedi’u hadneuo’n lleol o dan adran 4(1) o Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus 1958. O dan Ddeddfau Cofnodion Cyhoeddus 1958 a 1967, mae AC wedi’i phenodi i ofalu am gofnodion cyhoeddus dynodedig fel cofnodion Llysoedd Chwarter, Llysoedd Ynadon, Crwneriaid, Llysoedd Sirol ac ati fel y’u rhestrir yn Offeryn Statudol Cofnodion Cyhoeddus (Mannau Adneuo) 1991. Mae AC yn cael ei chydnabod gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru fel ystorfa ar gyfer cofnodion plwyf yn yr ardal yn unol â diffiniad ei gytundeb ag AC.

4.6 Mae AC yn cydymffurfio â deddfwriaeth bresennol yn ymwneud ag archifau gan gynnwys Deddf Llywodraeth Leol (Cofnodion) 1962, Deddf Diogelu Data1998, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.Mae’n ceisio bodloni gofynion Safon Achredu Gwasanaethau Archifau ac ennill a chadw statws achrededig.

5. Cwmpas y Gwaith Casglu

5.1 Mae ACyn ceisio casglu a diogelu deunydd yn ymwneud â sir bresennol Ceredigion y credir ei fod yn unigryw neu’n brin,a deunydd sydd o werth hanesyddol hirdymor ym marn staff cymwysedig yr archifdy.

5.2 Mae AC yn casglu Cofnodion Cyhoeddus o dan delerau Deddf Cofnodion Cyhoeddus 1958; cofnodion yn ymwneud â maenorau a’r degwm o dan y mesurau perthnasol; cofnodion awdurdodau llywodraeth leol blaenorol a Chyngor Sir Ceredigion presennol o dan delerau Deddf Llywodraeth Leol 1972; a chofnodion plwyf yn ymwneud â’r ardal a nodir yn y cytundeb presennol rhwng Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru.

5.3. Nid yw ein polisi casglu yn cynnwys archifau yn ymwneud â phobl a lleoedd y tu allan i’r ardal ddynodedig,ac os yw eitemau o’r fath yn cael eu cynnig, fel arfer cyfeirir y sawl sy’n eu cynnig i’r lle priodol, e.e. Swyddfa Cofnodion Sirol gyfagos. Gweler hefyd paragraff 7: Polisi Cyfyngiadau Casglu isod.

5.4 O safbwynt daearyddol, rydym yn ceisio casglu deunydd o bob rhan o sir bresennol Ceredigionac o gymunedau trefol a gwledig o bob maint.

5.5 O safbwynt themâu, rydym yn ceisio cofnodi pob gweithgaredd ac agwedd ar fywyd yng Ngheredigion,waeth a yw’n swyddogol (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i lywodraeth leol, cyrff statudol eraill ac ysgolion), yn ymwneud â busnesau, yn gymdeithasol (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i glybiau, cymdeithasau a gweithgareddau chwaraeon), yn grefyddol (pob enwad)ac yn breifat/personol (gan gynnwys papurau teuluoedd ac ystadau a phapurau personol). Mae’r pwyntiau canlynol yn disgrifio hyn yn fanylach:

5.5.1 O safbwynt ein rhiant-gorff a’i ragflaenwyr ym maes Llywodraeth Leol, rydym yn ceisio casglu archif gynhwysfawr sy’n cofnodi’r gweithgareddau mwyaf arwyddocaol a’r broses o wneud penderfyniadau gan Gyngor Sir Ceredigion a’i ragflaenwyr,Cyngor Sir Dyfed a Chyngor Sir Aberteifi, yn ogystal â’r Byrddau, yr Awdurdodau a’r Cynghorau a oedd yn gweithredu o dan y Cynghorau Sir hyn, a chofnodion gweinyddol y Sesiynau Chwarter.

5.5.2 O safbwynt archifau crefyddol, yn ogystal â chofnodion plwyf yr Eglwys yng Nghymru sy’n cael eu casglu o dan delerau’r Cytundeb Cofnodion Plwyf â’r corff hwnnw, rydym yn ceisio casglu cofnodion y rhan fwyaf o’r enwadau crefyddol eraill gan gynnwys yr holl eglwysi a chapeli anghydffurfiol (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i’r Methodistiaid Wesleaidd, y Bedyddwyr, y Crynwyr a’r Annibynwyr, ond nid yn cynnwys cofnodion y Methodistiaid Calfinaidd), a chofnodion crefyddau eraill.

5.5.3 Rydym yn ceisio casglu archifau gan unigolion a sefydliadau sy’n weithredol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ac ym mywyd dinesig a busnes.Mae’r rhain yn cynnwys busnesau, clybiau a chymdeithasau, pleidiau gwleidyddol, undebau llafur, grwpiau pwyso, ymgyrchoedd lleol, teuluoedd ac unigolion.Rydym yn ceisio casglu cofnodion sy’n cynrychioli diddordebau a safbwyntiau o bob math.

5.5.4 Rydym yn ceisio cynnwys cofnodion sy’n cynrychioli elfennau a grwpiau cymdeithasol o bob math yng Ngheredigion.

6. Fformat a Chyfrwng

6.1 Mae AC yn derbyn archifau o bob cyfnod ac ym mhob fformat, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i bapur, memrwn, tâp sain a fideo, ffilm, microffilm/micro-lun, ffotograffau, negatifau plât gwydr a sleidiau llusern, yn ogystal â fformatau digidol gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i gyfryngau fel DVD/CD Rom, disg hyblyg, e-bost, a’r cof bach. Mae’n cadw’r hawl i drosglwyddo eitemau sydd wedi’u creu mewn cyfrwng ansefydlog i gyfrwng mwy sefydlog, gan geisio cadw’r cyfrwng gwreiddiol fel metadata os oes modd. Hefyd, mae’n cadw’r hawl i drosglwyddo deunydd sydd mewn cyfrwng ansefydlog i ystorfa arall os oes modd ei gadw a’i guradu’n well yno.

6.2 Bydd AC yn cymryd camau priodol i ddiogelu’n barhaol, i’r graddau posibl, deunydd sydd wedi’i greu ar ffurf ddigidol, gan gynnwys cipio, storio, copïo a chynnal deunydd o’r fath, er mwyn sicrhau bod y deunydd ar gael o hyd a bod manylion personol yn cael eu diogelu.

6.3 Bydd darnau o waith a gyhoeddwyd sy’n ategu’r casgliadau o lawysgrifau yn cael eu casglu, felly hefyd copïau a chatalogau o ddeunydd perthnasol sy’n cael eu cadw yn rhywle arall.Bydd AC yn cydweithio â gwasanaeth astudiaethau lleol Gwasanaethau Llyfrgell Ceredigion er mwyn osgoi dyblygu deunydd cyhoeddedig yn ddiangen.

7. Polisi Cyfyngiadau Casglu

7.1 Bydd AC ond yn casglu a diogelu deunydd y credir ei fod yn unigryw ac o werth hanesyddol hirdymor ym marn staff cymwysedig yr Archifdy ac Archifydd y Sir a/neu’r Uwch Archifydd.

7.2 Ni fydd AC yn casglu deunydd o’r tu allan i’r ardal ddaearyddol berthnasol ar gyfer casglu deunydd yn ôl diffiniad 'Cwmpas y Gwaith Casglu' uchod. Yr eithriadau i hyn yw os yw’r deunydd yn ychwanegu at gasgliadau cyfredol penodol sydd eisoes yn cael eu cadw gan AC, neu mewn amgylchiadau eithriadol gan gynnwys ar sail dymuniadau clir y perchennog ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw ystorfa berthnasol arall.

7.3 Er na fydd AC yn ceisio caffael cofnodion sy’n ymwneud ag ardaloedd daearyddol y tu allan i sir fodern Ceredigion, weithiau gall cofnodion o’r fath fod yn rhan hanfodol o gasgliad sy’n canolbwyntio’n bennaf ar yr ardal ddaearyddol y cyfeirir ati heddiw fel Ceredigion,a/neu gall y cofnodion ymwneud â phobl sy’n dod o Geredigion neu sydd â chysylltiad agos â’r Sir.Yn yr achosion hyn, ni fydd y casgliad yn cael ei rannu fel arfer, a bydd y wybodaeth yn cael ei rhoi i ardaloedd eraill fel sy’n briodol.

7.4 Fel arfer, nid yw AC yn derbyn deunydd wedi’i ddyblygu oni bai bod cadw mwy nag un copi o ddeunydd nad yw’n unigryw yn fanteisiol mewn achosion penodol. Ni fydd deunydd wedi’i gopïo yn cael ei dderbyn oni bai nad yw’r deunydd gwreiddiol cyfatebol eisoes yn cael ei gadw yn y casgliad.

7.5 Mae AC yn annog pobl i adneuo archifau ffilm a recordiadau sain, ond mae’n mynd ati wedyn i’w trosglwyddo i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn Aberystwyth, sydd â chyfleusterau cadw a diogelu arbenigol.Pan fydd trosglwyddiad o’r fath yn cael ei gwblhau, fel rhan o’r telerau adneuo byddwn ni’n gofyn i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru wneud copïau mewn fformat priodol ar gyfer adneuwyr a phobl leol sy’n ymweld ag AC.

7.6 Nid yw AC yn casglu deunydd print neu gyhoeddedig fel arfer oni bai ei fod yn rhan hanfodol o archif, ei fod yn cynnwys anodiad llawysgrif arwyddocaol, neu ei fod yn bwysig ar gyfer gwaith ymchwil.Fel arfer, cyfeirir deunydd cyhoeddedig arall i Bennaeth Gwasanaethau Llyfrgell Ceredigion.

7.7 Yn gyffredinol, nid yw AC yn casglu arteffactau, gwrthrychau tri dimensiwn neu ddarnau o waith celf, oni bai eu bod yn rhan hanfodol o archif gysylltiedig.Fel arfer, cyfeirir deunydd o’r fath i Wasanaeth Amgueddfeydd Ceredigion.

8. Datblygu’r Casgliadau

8.1 Ar ôl ei sefydlu dros 40 mlynedd yn ôl, mae AC wedi datblygu cofnod helaeth o fywyd yng Ngheredigion ers yr unfed ganrif ar bymtheg, ac mae’n ceisio cryfhau cwmpas ei chasgliadau yn gyson. Bydd yn parhau i arfer ei hawl i fod yr unig le adneuo ar gyfer cofnodion a ddiogelir gan y ddeddfwriaeth yn Adran 4. Os oes unrhyw anghytuno yn codi ynglÅ·n â man adneuo priodol, bydd AC yn trafod y mater yn adeiladol, a gofyn i sefydliad priodol am wasanaeth cyfryngu os yw hynny’n briodol.

8.2 Mae AC yn cydnabod nad yw ei chasgliadau’n gynhwysfawr. O ganlyniad, bydd AC yn cynnal archwiliadau ac arolygon o’i daliadau er mwyn canfod unrhyw fylchau presennol, mewn casgliadau sydd eisoes yn bodoli, ac mewn casgliadau lle mae prinder neu absenoldeb mathau penodol o gofnodion a/neu gofnodion sy’n cynrychioli agweddau penodol ar fywyd a hanes y sir. Bydd angen darparu digon o adnoddau o ran amser staff a chostau eraill (i’r graddau posibl) ar gyfer yr archwiliadau a’r arolygon hyn, a byddant yn llywio’r gwaith o ganfod bylchau yng nghasgliadau Archifdy Ceredigion.

8.3 Yn unol â’r adnoddau sydd ar gael, y cyfyngiadau ar le storio a’r wybodaeth sy’n deillio o archwiliadau ac arolygon, bydd AC yn annog adneuwyr presennol i adneuo rhagor o ddeunydd er mwyn sicrhau bod casgliadau presennol yn parhau i ddatblygu ac adrodd hanes mor gynhwysfawr â phosibl o’r gweithgareddau sy’n sylfaen i’r casgliadau.

8.4 Yn unol â’r adnoddau sydd ar gael, y cyfyngiadau ar le storio a’r wybodaeth sy’n deillio o archwiliadau ac arolygon, bydd AC yn annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein casgliadau ar hyn o bryd i adneuo deunydd.

8.5 Bydd AC yn parhau i weithio’n agos gyda’n Gwasanaeth Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion er mwyn trosglwyddo cofnodion priodol yn systematig, gan sicrhau bod cofnod cynhwysfawr o weithgareddau llywodraeth leol yng Ngheredigion yn parhau i gael ei gasglu a’i ddatblygu.

8.6 Mae AC yn caffael casgliadau trwy’r dulliau canlynol:

• Rhodd (gan gynnwys mewn ewyllys) – y dewis rydym yn ei ffafrio
• Adneuo ar sail benthyciad hirdymor
• Trosglwyddiad: o Gyngor Sir Ceredigion (gweler 8.5), fel cofnodion cyhoeddus o’r Archifau Cenedlaethol neu sefydliadau archifol eraill
• Prynu (mewn achosion eithriadol yn unig)

8.7 Rydym yn cadarnhau perchenogaeth a tharddiad casgliadau cyn eu caffael, ac rydym yn blaenoriaethu casgliadau sydd mewn perygl o gael eu difrodi neu eu dinistrio.Gallwn ofyn am gyfraniadau ariannol gan berchenogion adneuon tuag at y gost o gadw eu harchifau. Gweler ein dogfen Amodau Adneuo.

8.8 Mae catalogio yn weithgaredd craidd ar gyfer AC er mwyn sicrhau’r mynediad ehangaf posibl i wybodaeth am ein casgliadau. Mae blaenoriaethau ar gyfer catalogio derbyniadau newydd a daliadau heb eu catalogio presennol yn cael eu penderfynu yn unol â blaenoriaethau dynodedig a’r adnoddau sydd ar gael. Bydd AC yn archwilio cyfleoedd i ddod o hyd i gyllid newydd, gan gynnwys ffrydiau cyllid allanol, er mwyn cynorthwyo gwaith catalogio fel sy’n briodol a helpu i liniaru rhwystrau ym maes ôl-groniad gwaith catalogio.

9. Mynediad

9.1 Caiff archifau eu derbyn ar sail y rhagdybiaeth fod yr adneuwr yn fodlon iddynt fod ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus o fewn cyfnod amser rhesymol (yng nghyd-destun deddfwriaeth berthnasol). Bydd ACyn creu cyhoeddusrwydd ar gyfer pob derbyniad newydd, gan gynghori ar unrhyw gyfyngiadau i fynediad.Bydd catalogau ar gael ar-lein ac yn cael eu rhoi i adneuwyr a gwasanaeth Darganfod yr Archifau Gwladol.

10. Gwaredu

10.1 Mae AC yn cadw’r hawl i waredu deunydd nad yw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer cadwraeth hirdymor a nodir yn y Polisi Datblygu Casgliadau.

10.2 Mae AC yn cytuno ar ddewisiadau gwaredu priodol gyda’r adneuwr/rhoddwr adeg gwaredu, sef un o’r canlynol yn y rhan fwyaf o achosion:

• Dychwelyd i’r adneuwr/rhoddwr. Rydym yn gofyn i berchnogion gasglu’r eitemau a’u hysbysu y gall unrhyw ddeunydd nad yw’n cael ei gasglu o fewn amser y cytunir arno gael ei waredu fel gwastraff.
• Trosglwyddo i ystorfa fwy priodol.Rydym yn disgwyl y bydd y perchennog yn gwneud y trefniadau hyn os oes modd.
• Defnyddio dulliau priodol i ddinistrio’r deunydd gan ddibynnu ar ei natur. Bydd deunydd cyfrinachol yn cael ei ddinistrio gyda gwastraff cyfrinachol arall Cyngor Sir Ceredigion yn unol â safonau’r diwydiant.

10.3 Nid yw AC yn gwerthu deunydd archif ond gall werthu deunydd argraffedig neu gyhoeddedig os yw’n eiddo i Gyngor Sir Ceredigiona’i fod naill ai’n dyblygu ein daliadau neu nad yw’n gysylltiedig âCheredigion. Bydd unrhyw incwm sy’n deillio o werthu deunydd o’r fath yn cael ei ddefnyddio er budd y casgliadau.

11. Adolygu’r Polisi

Adolygir y polisi hwn o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Ysgrifennwyd y polisi hwn ym mis Hydref 2017 a bydd yn cael ei adolygu ym mis Hydref 2022, neu cyn hynny os oes angen.



Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu