Croeso i'r ArchifdyArchifdy Ceredigion yw swyddfa gofnodion y sir a elwid gynt yn Sir Aberteifi (yn Saesneg, Cardiganshire). Rydym yn casglu ac yn cadw dogfennau'n ymwneud â hanes Ceredigion, ac yn sicrhau eu bod ar gael i bwrpas gwaith ymchwil. Ynghylch Archifdy CeredigionSefydlwyd Archifdy Ceredigion yn wreiddiol yn 1974, fel trydedd swyddfa Gwasanaeth Archifau Dyfed. Bryd hynny câi ei alw'n Archifdy Rhanbarthol Sir Aberteifi. Yn 1996, gydag ad-drefnu llywodraeth leol, ail-lansiwyd yr archifdy fel Archifdy Ceredigion. Hyd heddiw, mae hwn ymhlith y lleiaf o'r archifdai sirol. Mae dogfennau swyddogol a phreifat yn ymwneud â hanes y sir yn cael eu cadw yma. ![]() Y staffMae yna bum aelod parhaol o'r staff ar hyn o bryd: Helen Palmer (Archifydd y Sir) Mair Humphreys (Archifydd/Rheolwr Cofnodion) Ania Skarzynska (Archifydd) Gwyneth Roberts (Prif Gynorthwy-ydd Archifau a Chofnodion) Anne Martin (Cynorthwy-ydd Archifau ) Mae gennym hefyd tri aelod o staff dros dro- Robert Astin (archifydd dan hyfforddiant), a dau gynorthwy-ydd dros dro, sef Liz Clubbe a Darren Williams. Mae gan bob un ohonynt brofiad helaeth o weithio gydag archifau, ac y maent bob amser yn fodlon iawn i gynnig cyngor ar unrhyw agwedd o ymchwilio i hanes lleol neu hanes teuluol. Os byddwch yn ymweld â'r Archifdy, gallant ddangos i chi sut i gael y gorau allan o gasgliadau Archifdy Ceredigion, a sut i ddefnyddio'r gwahanol ddarllenyddion microffilm a microfiche yn yr ystafell ddarllen. Gellir cysylltu â hwy drwy lythyr, dros y ffôn neu drwy e-bost. Sut allwch chi helpuGallwch chi helpu Archifdy Ceredigion yn y ffyrdd canlynol • Defnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael • Cyfrannu eitemau at y casgliadau • Rhoi arian ar gyfer prosiectau gwarchod • Gwirfoddoli i helpu yn yr archifdy • Dweud wrth eich ffrindiau amdanom ni Archifdy Ceredigion - gofalu am y gorffenol er lles y dyfodol
|