Search

 
 

Archifdy Ceredigion Archives
Casgliad Alun R. Edwards a Llyfrgell Ceredigion


Acc. 1581

Ref: Casgliad ARE cyfres 7

TITLE: ARE/07
DYDDIAD: 1948-1993
LEFEL A THREFN: cyfres
MAINT: 56 eitem
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Adeiladau ac ystadau: llyfrgelloedd cangen a chanolfan newydd Llyfrgell Ceredigion (na chafodd ei hadeiladu). Hefyd materion gweinyddu llyfrgelloedd cangen: gohebiaeth gyda’r darllenwyr, cynghorwyr, staff ac eraill, a deunydd perthynol arall, fel y disgrifir isod.

TITLE: ARE/07/01
DYDDIAD: heb ei roi
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 1 ddalen
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Llyfrgell Aberystwyth: glasbrint o gynllun adeilad y llyfrgell yn Corporation Street.

TITLE: ARE/07/02
DYDDIAD: 1977
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 16 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Llyfrgell Aberystwyth: glasbrintiau o gynllun ‘Avondale’.

TITLE: ARE/07/03
DYDDIAD: 1954
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 2 ddalen
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Llyfrgell Aberystwyth: glasbrintiau o gynllun ‘Avondale’.

TITLE: ARE/07/04
DYDDIAD: 1968
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 14 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Llyfrgell Aberystwyth: 2 lasbrint o gynllun ‘Birkdale’ a rhagfanylion gwaith adeiladu i’w wneud arno.

TITLE: ARE/07/05
DYDDIAD: 1970
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 8 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Cynllun canolfan newydd Llyfrgell Ceredigion, a oedd i’w hadeiladu yn Park Avenue, Aberystwyth.

TITLE: ARE/07/06
DYDDIAD: 1969-1971
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 85 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â chanolfan newydd Llyfrgell Ceredigion: gohebiaeth, ffurflenni cais am ariannu’r prosiect, memoranda, adroddiadau a deunydd cymysg arall. Gweler hefyd ARE/07/05 ac ARE/07/09.

TITLE: ARE/07/07
DYDDIAD: 1964-1970
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 28 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud ag estyn Llyfrgell Aberystwyth. Prynwyd Birkdale (yr adeilad drws nesaf i’r Llyfrgell) i’w ddefnyddio fel swyddfa ac ystordy ar gyfer y Llyfrgell. Gohebiaeth, adroddiadau, cofnodion a deunydd perthynol arall.

TITLE: ARE/07/08
DYDDIAD: 1948-1974
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 108 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â chadw a chynnal adeiladau ac ystadau’r llyfrgell yn Aberystwyth: gohebiaeth, cofnodion, memoranda, adroddiadau, rhagofynion ayyb.

TITLE: ARE/07/09
DYDDIAD: 1969-1974
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 170 o ddalennau
IAITH: Saesneg; Cymraeg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â chanolfan newydd Llyfrgell Ceredigion: gohebiaeth, memoranda, adroddiadau, rhagofynion, enghreifftiau o adeiladau llyfrgell eraill a deunydd cymysg arall. Gweler hefyd ARE/07/06.

TITLE: ARE/07/10
DYDDIAD: 1959-1974
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 137 o ddalennau ac 1 llyfryn
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â gweinyddu Llyfrgell Aberystwyth (yr adeilad, gwasanaeth i’r darllenwyr, gwasanaethau llyfrgell yn gyffredinol, y ganolfan newydd, Birkdale ayyb): gohebiaeth, adroddiadau, papurau cymysg eraill.

TITLE: ARE/07/11
DYDDIAD: 1958-1965
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 73 o ddalennau
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â gweinyddu llyfrgell Aberystwyth a llyfrgelloedd cangen eraill: gwasanaeth i’r darllenwyr, materion staff, Birkdale, adeiladau eraill, casgliad o luniau ayyb. Gohebiaeth, adroddiadau, memoranda, nodiadau a deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/07/12
DYDDIAD: 1969-1978
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 206 o ddalennau ac 1 llyfryn
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Rhaglen adeiladu Cyngor Sir Dyfed a materion ystadau ac adeiladau eraill, gan gynnwys Avondale, y ganolfan ddiwylliannol newydd, adeiladau llyfrgelloedd cangen newydd, adeiladau eraill. Gohebiaeth, adroddiadau, cofnodion Pwyllgor Ystadau, memoranda, deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/07/13
DYDDIAD: 1977
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 2 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Glasbrintiau: 2 gynllun adeilad llyfrgell gangen newydd ym Mhenygroes.

TITLE: ARE/07/14
DYDDIAD: 1972-1975
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 111 o ddalennau ac 1 llyfryn
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â chanolfan ddiwylliannol Ceredigion newydd yn Park Avenue, Aberystwyth: gohebiaeth, adroddiadau, memoranda, glasbrintiau, rhagofynion a deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/07/15
DYDDIAD: 1950-1975
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 192 o ddalennau ac 1 llyfryn
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â Llyfrgell Gangen Tregaron: gohebiaeth, cynlluniau, adroddiadau, seremoni agoriadol llyfrgell newydd (fe’i hagorwyd ym 1973) a deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/07/16
DYDDIAD: 1950-1972
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 30 o ddalennau
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Gohebiaeth am Lyfrgell Gangen y Borth.

TITLE: ARE/07/17
DYDDIAD: 1974-1979
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 69 o ddalennau
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Gohebiaeth a deunydd cymysg arall sy’n ymwneud â Llyfrgell Gangen Llanbedr Pont Steffan, gan gynnwys cwynion y darllenwyr am safon y gwasanaeth.

TITLE: ARE/07/18
DYDDIAD: 1949-1974
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 70 o ddalennau
IAITH: Saesneg; Cymraeg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â Llyfrgell Gangen Llanbedr Pont Steffan: gohebiaeth, prydles yr adeilad, cynllun y silffoedd, cofnodion, amcanion, anfonebau a deunydd perthynol arall.

TITLE: ARE/07/19
DYDDIAD: 1973 a 1979
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 2 ddalen
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: 2 lasbrint o gynllun Llyfrgell Gangen Llanbedr Pont Steffan. Gweler hefyd ARE/07/35.

TITLE: ARE/07/20
DYDDIAD: 1982
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 1 llyfryn â 21 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Adroddiad llyfrgellydd rhanbarthol ardal Sir Benfro i Swyddog Diwylliant Dyfed: Braslun o lyfrgell gangen sydd i’w hadeiladu yn Nhyddewi, Sir Benfro.

TITLE: ARE/07/21
DYDDIAD: 1948-1974
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 109 o ddalennau
IAITH: Saesneg; Cymraeg
NATUR A CHYNNWYS: Gohebiaeth, adroddiadau a deunydd cymysg arall sy’n ymwneud â Llyfrgell Gangen Aberteifi a’r trefniadau rhyngddi a Chyngor Sir Benfro i ganiatau i breswylwyr Sir Benfro ddefnyddio llyfrgelloedd yng Ngheredigion.

TITLE: ARE/07/22
DYDDIAD: 1974-1987
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 35 o ddalennau
IAITH: Saesneg; Cymraeg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd cymysg sy’n ymwneud â llyfrgelloedd cangen yn Sir Benfro (rhan o Ddyfed yn ystod y cyfnod hwn), gan gynnwys gohebiaeth, taflenni hysbys, braslun o lyfrgell gangen newydd yn Noc Penfro ayyb.

TITLE: ARE/07/23
DYDDIAD: 1949-1974
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 220 o ddalennau
IAITH: Saesneg; Cymraeg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd cymysg sy’n ymwneud â llyfrgelloedd cangen De Ceredigion (Llanbedr Pont Steffan a Llandysul): gohebiaeth, trefniadau gwasanaethau i ddarllenwyr dros ffiniau siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin, mapiau yn dangos cylch dylanwad llyfrgell Llambed a llyfrgell Llandysul.

TITLE: ARE/07/24
DYDDIAD: 1982-1986
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 24 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Llyfrgell Gangen Caerfyrddin: cofnodion cyfarfodydd staff, adroddiad am fandaliaeth, manylion system ffeilio newydd yn Adran Gwasanaethau Diwylliannol.

TITLE: ARE/07/25
DYDDIAD: 1951-1973
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 85 o ddalennau
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Llyfrgell Gangen Llandysul: deunydd cymysg yn ymwneud â gweinyddu’r llyfrgell, gan gynnwys gohebiaeth, memorada ayyb. Hefyd deiseb trigolion Llandysul yn erbyn cau’r llyfrgell.

TITLE: ARE/07/26
DYDDIAD: 1952-1973
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 54 o ddalennau
IAITH: Saesneg; Cymraeg
NATUR A CHYNNWYS: Gohebiaeth am lyfrgell gangen Aberaeron.

TITLE: ARE/07/27
DYDDIAD: 1974-1977
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: o ddalennau
IAITH: Saesneg; Cymraeg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd cymysg sy’n ymwneud â llyfrgell gangen Aberaeron: gohebiaeth, memoranda, amcanion ayyb.

TITLE: ARE/07/28
DYDDIAD: 1977
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 52 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Rhestri eiddo llyfrgelloedd Dyfed (gan gynnwys y llyfrgell deithiol) ar gyfer yswiriant. Hefyd llythyr sydd yn esbonio sut i wneud y rhestr.

TITLE: ARE/07/29
DYDDIAD: 1974-1987
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 67 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â chadw a chynnal adeiladau llyfrgell yn Nyfed ac yn enwedig yn Aberystwyth. Gohebiaeth, adroddiadau, memoranda a deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/07/30
DYDDIAD: 1954-1975
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 65 o ddalennau a 3 llyfryn
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Llyfrgelloedd cangen: cofnodion cyfarfodydd staff, gohebiaeth, memoranda, llyfr rheolau’r llyfrgell, adroddiadau, ystadegau, cyfarwyddiadau i’r staff, deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/07/31
DYDDIAD: 1976-1979
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 32 o ddalennau
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Archebu llyfrau ar gyfer y llyfrgell: gohebiaeth, manylion gwario’r gronfa lyfrau, cyfarwyddiadau i’r cyflenwyr llyfrau.

TITLE: ARE/07/32
DYDDIAD: 1958
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 1 ddalen
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Glasbrint: cynllun Ysgol Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, ar gyfer y gwaith i wella’r adeilad.

TITLE: ARE/07/33
DYDDIAD: heb ei roi (1950au?)
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 1 ddalen
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Glasbrint: cynllun adeilad newydd llyfrgell cangen Tregaron.

TITLE: ARE/07/34
DYDDIAD: heb ei roi (1960au?)
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 1 ddalen
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS:Glasbrint: cynllun Canolfan i Athrawon, Port Talbot (Cyngor Sir Morgannwg).

TITLE: ARE/07/35
DYDDIAD: 1973 (rhan)
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 3 ddalen
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Glasbrintiau o gynllun Canolfan Diwylliant/ Llyfrgell newydd yn Llanbedr Pont Steffan. Gweler hefyd ARE/07/19.

TITLE: ARE/07/36
DYDDIAD: 1950-1969
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 84 o ddalennau a 2 lyfryn
IAITH: Saesneg; Cymraeg
NATUR A CHYNNWYS: Llyfrgell Cangen Cei Newydd: gohebiaeth, materion sefydlu’r gangen a chodi’r adeilad ar ei chyfer, deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/07/37
DYDDIAD: 1960au
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 7 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Glasbrintiau o gynlluniau adeiladau llyfrgell: Tregaron, Aberteifi, Aberaeron.

TITLE: ARE/07/38
DYDDIAD: 1974-1976
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 179 o ddalennau
IAITH: Saesneg; Cymraeg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud ag adeiladau llyfrgell, stordai llyfrau a silffoedd a chyfarpar arall yn y llyfrgelloedd. Gohebiaeth, anfonebau, adroddiadau, memoranda a deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/07/39
DYDDIAD: 1963-1970
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 24 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Cynllun newydd ar gyfer pedestreiddio canol tref Aberteifi, a’i effaith ar y llyfrgell gangen (byddai angen ei hailsefyll): gohebiaeth, memoranda, cynlluniau’r hen adeilad a’r un newydd, deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/07/40
DYDDIAD: 1968
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 13 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Gohebiaeth, memoranda a deunydd cymysg arall am Birkdale (adeilad drws nesaf i Lyfrgell Aberystwyth) ac am lyfrgelloedd cangen Aberaeron a Llandysul.

TITLE: ARE/07/41
DYDDIAD: gweler isod
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 1 gyfrol
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Llyfrgell Gangen Aberystwyth: Llyfr ymholiadau. Yn cynnwys ymholiadau 1980-1984.

TITLE: ARE/07/42
DYDDIAD: heb ei roi; 1970au
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 5 dalen
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Llyfrgell a Chanolfan Ddiwylliant Tregaron: taflen wybodaeth a manylion gwasanaethau’r Ganolfan.

TITLE: ARE/07/43
DYDDIAD: 1958-1971
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 136 o ddalennau ac 1 llyfryn
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Gohebiaeth a deunydd cymysg arall (adroddiadau, amcangyfrifon, cynlluniau ayyb) am adeiladu pencadlys newydd ar gyfer Llyfrgell Ceredigion, estyn adeiladau llyfrgelloedd y Sir, prynu Birkdale (adeilad drws nesaf i Lyfrgell Aberystwyth i’w ddefnyddio fel estyniad i’r llyfrgell) a materion eraill cysylltiedig ag ystadau.

TITLE: ARE/07/44
DYDDIAD: 1980
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 14 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd am ddyfodol Llyfrgell Aberystwyth, gan gynnwys darnau am adnewyddu’r adeilad, darparu mynediad i’r anabl, hanes lleol, meicroffilmio hen bapurau newydd, ac am agweddau eraill y gwasanaeth. Hefyd 2 lythyr am wasanaeth i blant.

TITLE: ARE/07/45
DYDDIAD: 1961; 1973
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 3 dalen
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Llyfrgell Aberystwyth, Adran Gyfeiriadurol: Llythyr at Alun Edwards yn gofyn am gymorth wrth wneud ymchwil ar Gymry tramor, a’i ateb; cylchlythyr am Lyfryddiaeth Genedlaethol Prydain [British National Bibliography].

TITLE: ARE/07/46
DYDDIAD: 1961
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 1 ddalen
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Glasbrint: cynllun ystordy tu ôl i’r Llyfrgell Aberystwyth.

TITLE: ARE/07/47
DYDDIAD: 1970
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 9 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Trefnu peintio’r adeilad Llyfrgell Aberystwyth: tendrau a gohebiaeth.

TITLE: ARE/07/48
DYDDIAD: 1970
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 11 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Cyflog gofalwr Llyfrgell Aberystwyth: gohebiaeth, nodiadau, memoranda.

TITLE: ARE/07/49
DYDDIAD: heb ei roi
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 1 llun
IAITH: amherthnasol
NATUR A CHYNNWYS: Llun: tu fewn i Lyfrgell Gangen Tregaron.

TITLE: ARE/07/50
DYDDIAD: 1979
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 14 o ddalennau
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â gwasanaethau llyfrgell yn Llanbedr Pont Steffan, yn dilyn cwyniad gan Margaret Rees am safon y gwasanaeth.

TITLE: ARE/07/51
DYDDIAD: 1970-1993
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 18 o ddalennau
IAITH: Saesneg; Cymraeg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â gwasanaethau llyfrgell yn ardaloedd ar ymylon Sir Aberteifi (ardal Llanbedr a Llandysul), hefyd cyfyngu gwasanaeth llyfrgell deithiol a materion yn ymwneud â’r llyfrgelloedd cangen.

TITLE: ARE/07/52
DYDDIAD: 1958-1970
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 28 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â chodi estyniad i Lyfrgell Aberystwyth. Gohebiaeth, adroddiadau, memoranda.

TITLE: ARE/07/53
DYDDIAD: 1971
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 13 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Gohebiaeth sy’n ymwneud â llyfrgelloedd gangen Llanbedr Pont Steffan a Thregaron.

TITLE: ARE/07/54
DYDDIAD: 1968
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 4 dalen
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Gohebiaeth am brynu hen gapel y Bedyddwyr yn Aberaeron ar gyfer llyfrgell gangen y dref.

TITLE: ARE/07/55
DYDDIAD: 1951-1960
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 20 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â materion diogelwch tân yn adeiladau’r Llyfrgell: adroddiadau’r Swyddog Tân, gohebiaeth, prynu a gwasanaethu diffoddwyr tân.

TITLE: ARE/07/56
DYDDIAD: heb ei roi; 1950au?
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 1 ddalen
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Disgrifiad swydd gofalwr y Llyfrgell, yn cynnwys rhestr o’i ddyletswyddau.

Website developed by Technoleg Taliesin
Gweinyddu