Search

 
 

Archifdy Ceredigion Archives
Casgliad Alun R. Edwards a Llyfrgell Ceredigion


Acc. 1581

Ref: Casgliad ARE cyfres24

TITLE: ARE/24
DYDDIAD: 1966-1985
LEFEL A THREFN: cyfres
MAINT: 7 eitem
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Digwyddiadau allanol y cymerodd Llyfrgell Ceredigion/Llyfrgell Dyfed/Adran Ddiwylliant Sir Dyfed ran ynddynt: eisteddfodau, cynadleddau (gweler Cyfres 22 am gynadleddau llyfrgellyddiaeth), y Sioe Frenhinol ayyb.

TITLE: ARE/24/01
DYDDIAD: 1982-1983
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 168 o ddalennau
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â pharatoi arddangosfa arbennig am Ranbarth Ceredigion Sir Dyfed (a oedd yn ‘rhanbarth dan sylw’ y flwyddyn honno) ar gyfer y Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 1983. Cofnodion, gohebiaeth, nodiadau, awgrymiadau ar gyfer yr arddangosfa, apêl am arian, deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/24/02
DYDDIAD: 1983
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 17 o ddalennau
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Deunydd sy’n ymwneud â pharatoi arddangosfa arbennig am Ranbarth Ceredigion Sir Dyfed (a oedd yn ‘rhanbarth dan sylw’ y flwyddyn honno) ar gyfer y Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 1983. Gohebiaeth, cofnodion, memoranda.

TITLE: ARE/24/03
DYDDIAD: 1966
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 1 llyfryn
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Rhaglen ar gyfer ymweliad saith arweinwr o Swaziland i Geredigion. Trefnwyd yr ymweliad gan y Cyngor Prydeinig.

TITLE: ARE/24/04
DYDDIAD: 1976-1985
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 142 o ddalennau
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Adran Gwasanaethau Diwylliannol Sir Dyfed: paratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 a Llanbedr Pont Steffan 1984. Gohebiaeth, memoranda, cynlluniau’r ardangosfeydd, rhestri o luniau, nodiadau, cofnodion, deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/24/05
DYDDIAD: 1970-1973
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 98 o ddalennau a 2 lyfryn
IAITH: Cymraeg; Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol (yr oedd Alun Edwards yn rhan ohono): cofnodion, gohebiaeth, memoranda, deunydd cymysg arall.

TITLE: ARE/24/06
DYDDIAD: 1966
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 126 o ddalennau
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Cynhadledd Weithredol BBC/Sussex [BBC/Sussex Working Conference]: mynegai i bapurau’r gynhadledd; adroddiad ar adnoddau clyweledol; papurau a gyflwynwyd i’r Gynhadledd.

TITLE: ARE/24/07
DYDDIAD: 1978
LEFEL A THREFN: eitem
MAINT: 1 ddalen ac 1 cylchgrawn
IAITH: Saesneg
NATUR A CHYNNWYS: Cymdeithas Diogelu Harddwch Cymru [Council for the Protection of Rural Wales]: rhaglen y 12fed gynhadledd flynyddol yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, Ebrill 1978. Hefyd cylchgrawn y Gymdeithas, rhif 31.


Website developed by Technoleg Taliesin
Gweinyddu