Nid oedd llawer o ddynion a wasanaethodd yn y lluoedd wedi dychwelyd i’w cartrefi yn syth ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae gan Archifdy Ceredigion ddwy gyfres o gardiau post a anfonwyd at ddynion (ac un fenyw!) a oedd wedi’u cofrestru fel pleidleiswyr morol neu filwrol ac a ddychwelwyd ganddynt at y swyddog cofrestru etholiadol.
Roedd y cardiau yn gofyn i’r pleidleiswyr a ddylen nhw aros ar y Rhestr Pleidleiswyr Absennol a gallu pleidleisio trwy’r post, neu gael eu tynnu oddi ar y gofrestr honno a gallu pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio o ganlyniad.
Mae’r casgliad o gardiau a’r gronfa ddata (a luniwyd gan Sian Affonso oedd yn gwirfoddoli yn yr Archifdy) yn darparu enwau pleidleiswyr milwrol a oroesodd y rhyfel. Bydd ymchwilwyr y Rhyfel Mawr yn gwybod nad yw hi’n anodd dod o hyd i enwau’r rheini bu farw yn y rhyfel, ond mae’n llawer anoddach dod o hyd i enwau’r rheini a oroesodd y rhyfel.
Cardiau etholwyr Llyngesol a Milwrol
OR