Chwilio

 
 

Olrhain eich Hanes Teulu yn Archifdy Ceredigion



Y PRIF FFYNONELLAU HANES TEULU YNG NGHEREDIGION



TYSTYSGRIFAU GENI, PRIODAS A MARWOLAETH

Ers 1837 bu'n rhaid cofrestru pob genedigaeth, priodas a marwolaeth gyda'r awdurdodau sifil. Medrir cael tystysgrifau o:

Swyddfa'r Gofrestr Gyffredinol
Blwch Post 2
Southport
Merseyside
PR8 2JO
Rhif ffôn: 0870 2437788

Gellir hefyd archebu tystysgrifau ar-lein ar y wefan ganlynol:
http://www.gro.gov.uk/gro/content/

Gellir hefyd cael tystysgrifau i Sir Aberteifi oddi wrth y cofrestryddion lleol:

Gogledd Ceredigion:
Y Cofrestrydd
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Aberystwyth
SY23 3UE
Rhif ffôn: 01970 633580

Canol Ceredigion:
Y Cofrestrydd
21 Stryd Fawr
Llanbedr Pont Steffan
SA48 7BG
Rhif ffôn: 01570 422558

De Ceredigion:
Y Cofrestrydd
Glyncoed Chambers
Stryd y Priordy
Aberteifi
SA43 1BX
Rhif ffôn: 01239 612684

Mae'r Cofrestryddion yn fodlon ateb cwestiynau penodol - dylech gyflenwi nhw gyda chymaint o wybodaeth ag sydd yn bosibl er mwyn cynorthwyo eu hymchwiliad. Dylai'r rhai sy'n chwilio am dystysgrifau nodi nad yw pob swyddfa'r cofrestrydd ar agor bob dydd.

Mae mynegeion i'r tystysgrifau ar gael am ddim ar-lein yn:
http://www.freebmd.org.uk/, er nid yw'r broses o adysgrifio'r mynegeion wedi'i chwblhau. Gallwch hefyd archwilio'r mynegeion hyn ar y wefan Llinach (Ancestry); darperir y gwasanaeth hwn am ddim yn Archifdai a Llyfrgelloedd Cymru ond bydd angen tanysgrifio i'w gyrraedd o'ch cartref.

COFRESTRI PLWYF BEDYDDIADAU, PRIODASAU A CHLADDEDIGAETHAU

Cedwir cofrestri plwyf gwreiddiol hen Sir Aberteifi yn Archifdai Siroedd Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro, gan ddibynnu ym mha Ddeoniaeth Wledig y perthynai'r plwyf. Nid yw'r cyfrolau gwreiddiol yn cael eu rhoi allan i'r cyhoedd erbyn hyn. Gellir ymgynghori â chopïau microffilm o bob cofrestr plwyf Sir Aberteifi yn Archifdy Ceredigion ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Archifdy Ceredigion hefyd yn dal nifer o adysgrifau wedi'u mynegeio o fedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau i'r sir.

COFRESTRI'R CAPELI

Dylai copïau o gofrestri cyn 1837 fod yn yr Archifdy Cenedlaethol, Kew, Llundain. Ceir gwybodaeth ynghylch y cofrestri yma ar ei wefan ar:
http://www.nationalarchives.gov.uk/

Gellir ymgynghori a'r rhain ar ficroffilm yn Archifdy Ceredigion.

Mae rhai cofrestrau diweddarach ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â chapeli Methodistiaid Calfinaidd y Sir. Mae rhestr o gofrestri capeli sydd ar gael wedi'i chyhoeddi. Mae copi o Gofrestri Anghydffurfiol Cymru ar gael yn Archifdy Ceredigion.

FFURFLENNI CYFRIFIAD

Mae gan Archifdy Ceredigion gopïau microffilm o gyfrifiadau Sir Aberteifi o 1841 i 1901, ynghyd â chopi microfiche o gyfrifiad 1901. Mae pob cyfrifiad a gynhaliwyd ym Mhrydain o 1841 i 1911 ar gael am ddim ar-lein yn Archifdy Ceredigion ac mewn llyfrgelloedd ledled y Sir, trwy haelioni Llywodraeth y Cynulliad.

Yn 1841 dywedwyd wrth y cyfrifwyr am nodi oedran y rhai hynny oedd dros 15 oed i'r pum mlynedd agosaf, a'r unig wybodaeth oedd yn rhaid i bobl ei rhoi oedd a gawsant eu geni yn y sir yr oeddynt yn byw ynddi. O 1851 roedd y ffurflenni yn cynnwys enw, oedran, man geni a galwedigaeth y person oedd yn byw yno, yn ogystal â'i berthynas â'r penteulu. Mae cyfrifiad 1891 a 1901 yn cofnodi p'un ai oedd person yn siarad Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu'r ddwy iaith. Mae cyfrifiad 1911 yn rhoi manylion am faint teuluoedd a hyd priodasau.

Ar gael ar silffoedd agored ystafell ddarllen Archifdy Ceredigion mae adysgrifau a mynegeion i gyfrifiad Aberystwyth 1841-1891 ac ardaloedd gwledig Gogledd Sir Aberteifi 1841-1881, Llanbedr Pont Steffan 1851, Llanwenog 1841, Llanfihangel Ystrad 1841 a Llanddewibrefi 1841. Rydym hefyd yn dal adysgrifau o gyfrifiad Llansanffraid 1841-1871, Ysbyty Ystwyth 1851, a Llanilar 1871.

BEDDGRAFFIADAU

Rydym yn dal nifer o gyfrolau o feddgraffiadau i Sir Aberteifi - sy'n ymwneud â chyfran sylweddol o'r Sir. Rhestrau a mynegeion o gerrig beddau capeli ac eglwysi yw'r rhain ac maent yn rhoi gwybodaeth i ni am enwau, oedrannau, dyddiadau marwolaeth a lle'r oeddynt yn byw.

ATODLEN DEDDF PRISIAD TIR 1910

Roedd yr Atodlen Deddf Prisiad Tir 1910, a gyfeirir hefyd ato fel cyfrifiad Lloyd George yn arolwg a gafodd ei ymgymryd yn 1910 i asesu gwerth ardrethol eiddo a thir yn y wlad. Mae Archifdy Ceredigion yn dal yr atodlenni i Sir Aberteifi sy'n rhoi gwybodaeth i ni am bwy oedd yn byw ac yn berchen ar yr eiddo a'r tir, ei leoliad, faint o dir oedd dan sylw a'i werth. Mae'r atodlen yn rhoi cyfeirnod map. Rydym yn dal nifer bychan o'r mapiau yma, er bod y mwyafrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

COFNODION YSGOLION

Gall llyfrau cofnodion ysgolion unigol nodi disgyblion wrth eu henwau. Fodd bynnag y cofrestri sy'n debygol o fod fwyaf defnyddiol yw'r rhai sy'n nodi dyddiad geni (neu oedran) y disgybl, y dyddiad y dechreuodd yn yr ysgol, enw a chyfeiriad y rhiant neu warcheidwad, a dyddiad gadael yr ysgol. Mae'r ddau fath o gofnodion ar gael yn yr Archifdy. Nodwch bod cofrestri derbyn a llyfrau log ar gau am gan mlynedd.

PAPURAU NEWYDD

Mae'r rhain yn cynnwys hysbysiadau am enedigaethau, priodasau a marwolaethau, ac weithiau ceir hanesion hir a manwl am briodasau, angladdau, penblwyddi ac ysgrifau coffa. Mae gan yr Archifdy set cyflawn o rifynnau'r Cardigan and Tivyside Advertiser o 1866, gyda mynegai hyd at 1980, yn ôl enwau llefydd a thestun gan amlaf yn hytrach nag yn ôl enwau personol. Mae gennym gopïau o'r Cambrian News am y blynyddoedd canlynol: 1871-3, 1880, 1882-5, 1887-9, 1891-4, 1896-9, 1900-4, 1905-8. 1910-1, 1916, 1918, 1923-4, 1953, 1964, 1970-heddiw gyda rhai rhifynnau ar goll.

EWYLLYSIAU

Mae copïau o ewyllysiau yn ymwneud ag Esgobaeth Tŷ Ddewi, lle mae Sir Aberteifi yn rhan ohono ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a cheir copïau ar-lein o ewyllysiau ar eu gwefan ar www.llgc.org.uk. Mae mynegai i'r ewyllysiau yma ar gael yn Archifdy Ceredigion, o 1556 i 1858.

Serch hynny, mae rhai ewyllysiau o'r cyfnod wedi cael eu profi yn y 'Prerogotive Court of Canterbury'. Cedwir y rhain gan Yr Archifdy Cenedlaethol, Kew, Llundain. Maent ar gael ar ei safle ar-lein.

Gallwch edrych ar y mynegeion am ddim ond rhaid talu ffi i edrych ar y gwreiddiol. Mae ewyllysiau ar gael o 1384-1858.

Yn 1858 cyflwynwyd Profiant Sifil ac nid oedd ewyllysiau yn cael eu profi o dan yr awdurdod eglwysig bellach. Mae gwybodaeth am ewyllysiau ar ôl 1858 ar gael o'r Gwasanaeth Llysoedd. Yr unig fan lle mae yna set gyfan o galendrau [o 1858] ar gael i'r cyhoedd yw yn 'First Avenue House', Llundain. Mae y rhan fwyaf o swyddfeydd profiant rhanbarthol yn dal calendrau am yr hanner can mlynedd diwethaf. Gellir cael mwy o wybodaeth o wefan y Gwasanaeth Llysoedd ar:http://www.courtservice.gov.uk/cms/wills.htm

COFRESTRAU ETHOLIADOL

Mae copïau o'r cofrestrau etholiadol ar gael yn Archifdy Ceredigion. Maent yn rhestri'r unigolion a oedd a hawl i bleidleisio ac yn rhoi manylion am eu henwau a'u cyfeiriadau. Rydym yn dal nifer o gopïau am ail hanner yr 20fed ganrif ac mae gennym set gyfan am 1918 a 1945. Mae gennym rai enghreifftiau cynt ond maent yn dueddol o fod i ardaloedd penodol o fewn y sir. Gellir cael mwy o fanylion am y rhain o'n catalogau.

COFNODION BYRDDAU GWARCHEIDWAID

Dyma gasgliad helaeth o gofnodion sy'n ymwneud â gofalu am dlodion yn dilyn Deddf Tlodion 1834. Mae'n bosibl y bydd haneswyr teulu yn gallu dod o hyd i fanylion diddorol yn y llyfrau cofnodion neu yn y rhestri enwau sy'n nodi'r rhai aeth i'r wyrcws neu oedd yn derbyn cymorth o bryd i'w gilydd.

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â ni.


Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu