Chwilio

 
 

SUT I GAEL CERDYN ARCHIFAU



Tocyn darllenydd archifau unigol yw’r Cerdyn Archifau ac mae’n rhoi mynediad ichi i doreth o ddeunyddiau archif gwreiddiol mewn archifdai ledled y Deyrnas Unedig. Caiff unrhyw un sy’n 14 oed neu drosodd wneud cais am Gerdyn Archifau, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n ddilys am bum mlynedd.

Mae angen ichi wneud cais am Gerdyn os ydych yn dymuno gweld dogfennau gwreiddiol yn unrhyw un neu ragor o'r archifau sy'n cymryd rhan yn y cynllun. Gallwch ddechrau’r broses gofrestru syml heddiw drwy glicio ar y ddolen ar waelod y tudalen sy'n mynd â chi yn syth i’r ffurflen gais.

I orffen cofrestru, bydd angen ichi ymweld ag un o'r archifau sy'n cymryd rhan yn y cynllun o fewn tri mis ar ôl cyflwyno’ch ffurflen, gan fynd â dau fath o ddogfen adnabod, fel a restrir ar wefan y Cerdyn Archifau. Bydd aelod o staff yr archifau’n gwirio bod y rhain yn ddilys ac, os ydyn nhw, yn rhoi’ch Cerdyn i chi.

I arbed amser ar ôl cyrraedd, rydym yn argymell eich bod yn dechrau cofrestru ar-lein cyn eich ymweliad. Wedyn, y cyfan y bydd rhaid ichi ei wneud pan fyddwch yn ymweld â’r archif yw profi pwy ydych chi.

Mae ffotograff pasbort diweddar (pen ac ysgwyddau yn unig) ar ffurf electronig yn rhan hanfodol o'r broses gofrestru. Gallwch naill ai ychwanegu hwn at eich ffurflen gofrestru eich hun neu aros nes y byddwch yn ymweld ag archif o’ch dewis i orffen cofrestru, lle bydd aelod o’r staff yn tynnu’ch llun.

Mae angen ichi gwblhau'r broses gofrestru o fewn tri mis ar ôl cyflwyno’ch ffurflen, neu fel arall caiff ffurflen ei dileu a bydd rhaid ichi deipio’ch manylion eto.

Mae cynllun y Cerdyn Archifau’n cael ei weithredu gan ARA Commercial, sy’n is-gwmni i’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion, sef y prif gorff i archifau yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Dechreuwch y broses gofrestru nawr!

Cerdyn Archifau

Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu