Mae angen gwirfoddolwyr yn yr Archifdy bob amser i helpu i baratoi dogfennau i’w defnyddio gan y cyhoedd. Gallwch fod yn unrhyw oedran o 18 – 80 (a throsodd!)
Pam fyddech chi am wirfoddoli gyda’r Archifdy?
• Am eich bod yn hoffi hanes lleol
• Am eich bod am helpu i gadw’r gorffennol i bawb ei ddefnyddio a’i fwynhau
• Am fod gennych ddiddordeb mewn dogfennau a’r negeseuon sydd ynddynt
• Am eich bod am wella’ch sgiliau swyddfa
• Am eich bod am gynyddu’ch hyder
• Am eich bod am hyfforddi i fod yn archifydd
Oes angen sgiliau arbennig arna’i?
Nac oes, byddwn ni’n darparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch. Bydd eich holl waith yn cael ei oruchwylio gan aelod profiadol o’r staff, all eich helpu chi i helpu ni.
Rhai mathau o waith gwirfoddol
• Glanhau dogfennau
• Gosod dogfennau yn eu trefn
• Pecynnu dogfennau ym mlychau storio safonol yr archifdy
• Teipio catalogau ar gyfrifiaduron
• Paratoi trawsgrifiadau o ddogfennau
• Creu mynegai dogfennau
Faint o ymrwymiad mae’n ei olygu?
Dim ond ychydig o oriau'r wythnos neu lai sydd gan lawer o bobl i’w sbario. Fel arfer gallwn ddod o hyd i brosiect sy’n eich siwtio chi, a’i ffitio mewn o amgylch eich galwadau eraill. Os ydych chi am gael profiad o weithio mewn archifdy cyn dechrau ar gwrs, gall fod yn fwy addas ichi weithio am sawl diwrnod yr wythnos dros gyfnod o ychydig fisoedd.
Sut i wirfoddoli
Bydd angen ichi gael
• Prawf o bwy ydych chi
• Geirda gan rywun all ein sicrhau eich bod yn berson dibynadwy.
• Arwyddo copi o’r cytundeb gwirfoddoli ar ôl ichi ddarllen ein
Polisi parthed Gwirfoddolwyr.
Cysylltwch â ni am fanylion pellach neu sgwrs anffurfiol.