Anerchiadau a DarlithoeddOs hoffech wybod mwy am waith y Gwasanaeth Archifau efallai yr hoffech i aelod o'n staff ddod i gyfarfod o'ch grŵp neu'ch cymdeithas chi. Mae ein staff bob amser yn barod iawn i roi anerchiad neu ddarlith, naill ai mewn man o'ch dewis chi, neu yn Archifdy'r Sir. Mae anerchiadau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd Helen Palmer a Mair Humphreys yn annerch yn Saesneg, a Mair Humphreys yn annerch yn Gymraeg. Er na fyddwn fel rheol yn codi tâl am anerchiadau neu ddarlithoedd a draddodir yng Ngheredigion, mae'n bleser gennym dderbyn cyfraniadau. Rydym yn awgrymu cyfraniad o £10.00 ar gyfer grwpiau bychain, a £10.00 - £20.00 ar gyfer grwpiau mwy o faint. Serch hynny, rydym yn gwerthfawrogi mai ychydig o arian wrth gefn sydd gan glybiau a chymdeithasau bychain iawn; felly, cysylltwch â ni os hoffech glywed am waith y Gwasanaeth Archifau, heb adael i brinder arian eich rhwystro. |
Talks and LecturesIf you would like to know more about the work of the Archives Service you might like a member of our staff to attend a meeting of your group or society.Our staff are always happy to give talks and lectures, either at the venue of your choice or at the County Record Office. Talks in both Welsh and English are available. Talks in English are given by Helen Palmer and Mair Humphreys, and talks in Welsh are given by Mair Humphreys. Although we do not usually charge for giving talks or lectures within Ceredigion, we are very pleased to receive donations. We suggest a donation of £10.00 for small groups, and £10.00 - £20.00 for larger groups. However, we do appreciate that very small clubs and societies may have very small funds; don't let that stop you contacting us if you would like to hear about the work of the Archives Service. |
-- Archifdy Ceredigion -- gofalu am y gorffenol er lles y dyfodol |
-- Ceredigion Archives -- preserving the past for the future |
