Chwilio

 
 

Ymchwilio i hanes tai



Fel rheol, mae’n haws olrhain hanes tÅ· drwy fywyd y sawl a fu’n byw ynddo; yn wir, dyma’r unig ffordd yn aml iawn, oni bai bod yr eiddo wedi bod yn rhan o ystâd fonedd (bydd rhagor am hynny’n hwyrach). Mae’n fwy tebygol, serch hynny, y bydd yn rhaid i’r ymchwilydd fynd ar drywydd arall i ymchwilio i hanes y tÅ·. Mae modd bwrw golwg ar amrywiaeth o gofnodion ac efallai y bydd y canlynol yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol.

- Y Cyfrifiad – proses o gyfrif y boblogaeth bob 10 mlynedd o 1841 ymlaen. Cofnodir enwau’r sawl a oedd yn byw yn yr adeilad, os yr oedd ar ei draed ar adeg cynnal y cyfrifiad, wrth gwrs. Mae’r wybodaeth a gofnodir yn amrywio o un cyfrifiad i’r llall – ychydig iawn yn 1841, ond roedd cyfrifiad 1911 yn cofnodi nifer yr ystafelloedd hyd yn oed.

- Geiriau ar Gofebau. Yn achos y rhan fwyaf o Geredigion, mae’r arysgrifau wedi cael eu cofnodi gan Dr E.L. James a Dr M.A. James ac mae copïau ar gael yn Archifau Ceredigion. Maen nhw wedi cael eu rhestru yn ôl enwau’r ymadawedig ac yn ôl enwau lleoedd, a allai roi rhagor o gliwiau i ni o ran pwy fu’n byw yn yr eiddo.

- Cofrestrau etholiadol, sy’n gallu darparu enwau’r sawl a oedd yn gymwys i bleidleisio (20fed ganrif).

- Mapiau Gwerthuso Tir 1910 (yn y Llyfrgell Genedlaethol) a Rhestrau Gwerthuso Tir 1910 (yn Archifdy Ceredigion). Roedd yr arolwg yn cofnodi gwerth a pherchnogaeth eiddo yn 1910 a’r defnydd a wnaed o’r eiddo.

- Mae cyfrolau Iwan Wmffre, The Place-Names of Cardiganshire (British Archaeological Reports) ar gael i fwrw golwg arnynt yn Archifau Ceredigion: tair cyfrol ar oddeutu 15,000 o enwau lleoedd Sir Aberteifi, gyda chyfeiriadau at eu hymddangosiad mewn cofnodion sydd ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol – llawysgrifau, mapiau, cofnodion ystadau a chofrestrau’r plwyfi (bellach yn Archifdy Ceredigion – gweler isod).

- Cofrestrau’r plwyfi o ran bedyddio, priodi a chladdu – o 1813 ymlaen roedd colofn yn y cofrestrau hyn i nodi ‘preswylfa’; gall hyn fod o gymorth i wybod pryd yr adeiladwyd tÅ·.

- Dylai Mapiau’r Degwm roi gwybodaeth i chi am berchnogion a deiliaid tiroedd ac eiddo tua 1840. Bydd hyn o gymorth wrth weld a yw gweithredoedd yr eiddo wedi goroesi yng nghasgliad yr ystad – gweler isod.

- Mae mapiau Cyfres Sirol yr Arolwg Ordnans (25 modfedd y filltir) yn dangos ôl adeiladau yn ogystal ag enwau tai a ffermydd. Maen nhw o gymorth i weld a oedd adeilad ar y safle ar adeg y rhifyn cyntaf (1870au) a’r ail rifyn (tua 1900) neu a gafodd adeilad ei godi yno rhwng y dyddiadau hyn. Mae mapiau hÅ·n yr Arolwg Ordnans (tua 1834) yn cynnwys llai o fanylion ond gallan nhw fod yn ddefnyddiol hefyd.

- Yng nghasgliadau’r ystadau gellir dod o hyd i ddogfennau cyfreithiol sy’n ymwneud â’r ystad gyfan neu rannau ohoni, megis morgeisi, prydlesi, cytundebau tenantiaeth, crynodeb o hawliau perchnogaeth a mwy. Pan fydd ystâd gyfan dan sylw, er enghraifft pan fydd yn cael ei morgeisio i godi arian, bydd enwau’r tai a’u tenantiaid presennol a blaenorol yn aml yn cael eu rhoi, ynghyd â nifer yr erwau, y gwerth ardrethol a gwybodaeth arall. Gallai dogfen prydlesu neu denantiaeth gynnwys map o’r eiddo a chynllun o’r tai y bwriedir eu codi. Gallai gynnwys gohebiaeth rhwng perchennog y tir - neu’i gynrychiolydd - a’r tenantiaid. Mae casgliad ystâd yn gallu cynnwys rhestrau o’r rhent a oedd yn ddyledus, gan ddangos i bwy y câi eiddo ei brydlesu o un flwyddyn i’r llall.
Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu