Chwilio

 
 

Casgliad Ystad Hafod Uchtryd



Cafodd casgliad yr Hafod ei ddarganfod mewn dwy gist metel ar lawr isaf swyddfa cyfreithwyr Rawson a Best, Leeds. Trosglwyddwyd y casgliad i berchnogion presennol y stad, y Comisiwn Coedwigaeth a adneuodd y casgliad i Archifdy Ceredigion, ynghyd â chofnodion a grëwyd ganddynt hwy yn y blynyddoedd diweddar.

Bellach, mae'r casgliad wedi'i ychwanegu i'r prif gatalog ar-lein. Gellir lawrlwytho'r holl atodlen fel ffeil .pdf (820 KB). Noder mai fersiwn sydd heb ei gywiro yw hwn; cafodd ffeil .html y catalog ei gwirio a chafodd ychydig fanylion eu golygu cyn iddynt gael eu lanlwytho.

Hefyd, caiff Casgliad Cyfeillion yr Hafod ei gadw yn Archifdy Ceredigion.

















Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu