Chwilio

 
 

Archifdy Ceredigion: Amodau Adneuaeth



1. Amodau Cyffredinol
Mae Archifdy Ceredigion yn derbyn dogfennau o ddiddordeb lleol a hanesyddol er mwyn gofalu amdanynt a'u cadw at ddefnydd y cyhoedd, un ai fel rhodd neu ar fenthyg. Mae'r pwerau hyn yn unol â'r Ddeddf Llywodraeth Leol (Cofnodion) 1962.

2. Adneuaeth
• Mae dogfennau adneuaeth yn parhau i fod yn eiddo'r adneuwr. Cyfrifoldeb yr adneuwr yw sicrhau bod y Gwasanaeth Archifau'n cael ei hysbysu o unrhyw newid cyfeiriad a/neu drosglwyddiad perchnogaeth y dogfennau (un ai trwy etifeddu neu fel arall).

• Mae'r Gwasanaeth Archifau'n cadw'r hawl i wrthod dogfennau, neu i ddychwelyd at yr adneuwr unrhyw ddogfennau na chânt eu hystyried fel rhai sy'n werth eu cadw'n barhaol, neu (gyda chaniatâd yr adneuwr) i ddinistrio dogfennau o'r fath

3. Cadwedigaeth
• Caiff y dogfennau eu storio yn Archifdy'r Awdurdod, a hynny mewn amgylchedd a ystyrir fel un dderbyniol ar gyfer storio dogfennau'r Awdurdod ei hun, yn ogystal â Chofnodion Cyhoeddus a gaiff eu hadneuo ar gyfarwyddyd yr Arglwydd Ganghellor.

• Bydd yr Awdurdod yn cymryd pob gofal rhesymol i ddiogelu'r dogfennau rhag cael eu niweidio, eu colli neu eu lladrata, ond ni fydd fel arall yn gyfrifol os caiff y dogfennau eu niweidio, eu colli neu eu lladrata.

4. Cadwraeth
Bydd hawl gan yr Archifdy i ddefnyddio'i ddisgresiwn:
• i dynnu llun neu ficroffilm o'r dogfennau, neu eu copïo mewn rhyw ddull arall
• i rifo dogfennau ar gyfer adnabod a diogelwch
• i gynnal gwaith cadwraeth pan fydd yr Archifydd Sirol o'r farn bod hynny'n angenrheidiol
• i gyfyngu neu arbed mynediad gan y cyhoedd at ddogfennau os bernir eu bod mewn cyflwr bregus, hyd nes y bydd gwaith cadwraeth wedi'i gynnal arnynt.

5. Rhestru
Caiff dogfennau eu rhestru fel rhan o raglen gatalogio'r Gwasanaeth Archifau, ac yn unol ag arfer catalogio cyfredol y Gwasanaeth Archifau. Mae hawl gan adneuwyr i dderbyn copi o gatalog o'u dogfennau, ond erys hawlfraint y catalog gyda'r Cyngor. Gellir darparu copi o'r catalog i bersonau neu gyrff eraill os bydd yr Archifydd Sirol yn ystyried hynny'n briodol.

6. Mynediad
[Yn ddarostyngol i ddarpariaethau'r Ddeddf Diogelu Data, 1998]
• Bydd y cofnodion ar adneuaeth ar gael i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim, i bwrpas ymchwil academaidd, yn Archifdy'r Awdurdod yn ystod yr oriau agor a hysbysebir.
• Trwy gytundeb rhwng yr adneuwr a'r Archifydd Sirol, gellir gosod cyfyngiadau ar fynediad gan y cyhoedd i ddogfennau unigol ar adneuaeth.
• Mae hawl gan adneuwyr i archwilio eu dogfennau yn yr Archifdy yn ystod yr oriau agor, trwy drefniant ymlaen llaw.
• Yn ddibynnol ar ddeddfwriaeth hawlfraint, gellir darparu copïau i aelodau o'r cyhoedd i bwrpas astudiaeth ac ymchwil bersonol.
• Bydd yr Archifydd Sirol yn rhoi caniatâd i gyhoeddi dogfennau ar adneuaeth, gair am air, yn llawn neu'n rhannol, ar yr amod na thorrir rheolau hawlfraint, ac y bydd y cyhoeddwr yn rhoi cydnabyddiaeth briodol i'r adneuwr.
• Gellir symud dogfennau o'r Archifdy i bwrpas arddangosfa, ar yr amod bod yr Archifydd Sirol yn fodlon y darperir diogelwch rhesymol ar gyfer y dogfennau hynny.
• Ni chaniateir unrhyw gais i gyflwyno dogfennau adneuaeth ar gyfer defnydd datganedig mewn gweithrediadau cyfreithiol heb ganiatâd yr adneuwr, heblaw lle bo llys yn rhoi gorchymyn i'r perwyl hwnnw.

7. Tynnu Ymaith
• Gall yr adneuwr, ar unrhyw adeg, dynnu dogfennau adneuaeth ymaith dros dro am gyfnod a gaiff ei ystyried fel un rhesymol, cyn belled ag y cyflwynir rhybudd ysgrifenedig o 5 diwrnod gwaith ymlaen llaw.
• Os bydd adneuwr yn dymuno tynnu dogfennau ymaith yn barhaol, rhaid cyflwyno rhybudd ysgrifenedig o un mis calendr ymlaen llaw. Mae'r Gwasanaeth Archifau'n cadw'r hawl i gopïo'r dogfennau ac i gadw'r copïau hynny fel eiddo'r Awdurdod ar ôl i'r dogfennau gael eu tynnu ymaith. Bydd y Gwasanaeth Archifau'n parhau i ganiatáu mynediad gan y cyhoedd i gopïau o'r fath, ac eithrio'r ffaith na chaniateir eu cyhoeddi heb ganiatâd yr Adneuwr, ac na thorrir rheolau hawlfraint.
• Os tynnir ymaith gasgliad ar adneuaeth yn barhaol, mae'r Gwasanaeth Archifau'n cadw'r hawl i godi ffi i'w ddigolledu am y costau ynghlwm â chatalogio, cadwraeth a storio.
• Rhaid i adneuwr, neu unrhyw berson arall sy'n dymuno tynnu dogfennau ymaith, ar sail dros-dro neu'n barhaol, un ai fel perchennog neu fel asiant, brofi i'r Awdurdod mai ganddo ef/ganddi hi y mae'r hawl i dderbyn y dogfennau hynny.

8. Cofnodion Plwyf
Caiff cofnodion plwyf yr Eglwys yng Nghymru eu hadneuo yn unol â'r cytundeb a wnaed yn 1976 rhwng Archifdai Awdurdodau Lleol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Eglwys yng Nghymru.

9. Rhoddion
Daw dogfennau a dderbynnir fel rhoddion yn eiddo llwyr i Gyngor Sir Ceredigion, i'w cadw yn Archifdy Ceredigion. Nid yw'r telerau cytundeb hyn yn berthnasol i roddion o'r fath.
Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu